Rydym yn falch iawn o rannu bod Sweet wedi cael ei ddewis i fod ar restr fer Gwobrau Iechyd Meddwl a Lles Cymru, yn y categori Effaith Rhagorol mewn Addysg.
Derbyniodd y gwobrau dros 250 o enwebiadau eleni, ac mae’r trefnwyr yn nodi fod ysafon yn eithriadol o uchel – felly rydym yn wirioneddol falch o fod ar y rhestr fer. Dyma’r ail dro i Sweet gael ei gydnabod yn y gwobrau hyn: enillodd ein adnoddau Twf Personol a Lles y Cynnyrch Addysg Gorau yn 2022.
Yr hyn mae’r wobr yn ei gydnabod
Mae’r categori Effaith Rhagorol mewn Addysg yn cydnabod y gwahaniaeth a wneir i iechyd meddwl a lles mewn lleoliadau addysgol. I ni, mae hynny’n golygu’r adnoddau y tu ôl i’r cymhwyster Twf Personol a Lles, a’r athrawon ar draws Cymru sy’n ei ddarparu o wythnos i wythnos – y sgyrsiau gonest am iechyd meddwl, cyfryngau cymdeithasol, perthnasoedd a gwydnwch sy’n digwydd yn eu hystafelloedd dosbarth.
Mae’r enwebiad yn perthyn cymaint i’r canolfannau hynny ag y mae i ni.
Rydym wedi bod yma o’r blaen
Yn 2022, enillodd ein adnoddau Twf Personol a Lles y Cynnyrch Addysg gorau yn yr un gwobrau, a gyflwynwyd ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd yng Ngwesty’r Village yng Nghaerdydd. Roedd y wobr am yr adnoddau y mae Sweet yn eu hysgrifennu a’u cyhoeddi, yn hytrach nag am y cymhwyster BTEC ei hun.
Mae’r hyn a amlygodd y beirniad bryd hynny yr un mor bwysig heddiw. Fe wnaethant gydnabod y geirdaon pwerus gan fyfyrwyr ac ysgolion Sweet, y gwahaniaeth cadarnhaol y gall y cymhwyster ei wneud i les cymdeithasol ac emosiynol pobl ifanc, a’r ffordd y mae’n helpu i’w paratoi gyda’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd fel oedolion.
Yn bwysig, daeth y dystiolaeth hon yn uniongyrchol gan y canolfannau a’r dysgwyr sy’n profi effaith y cymhwyster.
Ar y pryd, dywedodd Andrew Cooksley, a sefydlodd Sweet, mai adborth gan athrawon a disgyblion yw’r peth pwysicaf, a bod y wobr yn perthyn i’r tîm a adeiladodd yr adnodd.
Roedd Sweet mewn dros 200 o ganolfannau y flwyddyn honno. Mae bellach dros 250.
Wrth i ni ddatblygu ein hadnoddau newydd, mae Sweet yn cadw’r cryfderau hyn mewn cof. Bydd adnoddau’r dyfodol yn parhau i ganolbwyntio nid yn unig ar helpu dysgwyr i ennill cymhwyster, ond ar gefnogi lles, meithrin hyder ac annibyniaeth, a datblygu sgiliau ymarferol y gall pobl ifanc eu defnyddio yn eu bywydau bob dydd wrth iddynt ddod yn oedolion.
Pryd y cawn wybod
Bydd enillwyr yn cael eu cyhoeddi yng Ngwobrau a Chynhadledd Iechyd Meddwl a Lles Cymru ddydd Gwener 9 Hydref 2026, diwrnod cyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal rhwng 10:00yb a 4:00yp yng Ngwesty’r Mercure Holland House Caerdydd.
Os ydych chi’n mynd hefyd, dewch i ddweud helo.
Pwy sy’n cynnal y gwobrau
Mae Gwobrau Iechyd Meddwl a Lles Cymru yn cael eu trefnu gan Sefydliad Ajuda, cwmni buddiant cymunedol sy’n hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol ymysg sefydliadau, unigolion a chymunedau ar draws Cymru. Mae’r arian a godir yn mynd tuag at gyrraedd cymunedau a sefydliadau sydd anoddaf eu cyrraedd.