Cyfreithiol
Telerau ac amodau
Y telerau sy'n llywodraethu eich mynediad i, a’ch defnydd o wefan, cynnyrch a gwasanaethau Sweet Education Limited.
1. Cyflwyniad
Mae'r Telerau a’r Amodau hyn ("Telerau") yn llywodraethu eich mynediad a'ch defnydd o wefan, cynnyrch a gwasanaethau Sweet Education Limited ("Sweet Education," "rydym," "ni," neu "ein"). Trwy ddefnyddio ein gwasanaethau, rydych chi'n cytuno i gydymffurfio â'r Telerau hyn.
2. Pwy ydym ni
Mae Sweet Education Limited yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr (Rhif Cwmni 12337785) sydd â swyddfa yn Ocean Park House, East Tyndall Street, Caerdydd, Cymru CF24 5ET. Ar gyfer ymholiadau, cysylltwch â ni drwy e-bost ar info@sweet.education neu ffoniwch 07874869690.
3. Defnydd o wasanaethau a gwefan
- Mae ein gwefan a'n gwasanaethau wedi'u cyfeirio at ddefnyddwyr yn y DU a lleoliadau rhyngwladol dethol.
- Rydych chi'n gyfrifol am sicrhau bod yr holl fanylion bilio, manylion dosbarthu, gwybodaeth bersonol, a manylion mewngofnodi yn parhau i fod yn gyfrinachol. Rhaid adrodd am unrhyw fynediad heb ei awdurdodi i Sweet Education ar unwaith. Nid ydym yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod sy'n deillio o fethu â diogelu'r wybodaeth hon.
- Gall defnydd anghyfreithlon, rhannu heb ei awdurdodi neu unrhyw dorri'r Telerau hyn arwain at atal mynediad ar unwaith neu derfynu mynediad yn barhaol, heb rybudd.
4. Dolenni gwefan a chynnwys trydydd parti
- Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau trydydd parti. Nid ydym yn cymeradwyo nac yn cymryd cyfrifoldeb am eu cynnwys.
- Rhaid i ddefnyddwyr beidio â phostio, rhannu neu ddosbarthu gwybodaeth bersonol eraill heb ganiatâd.
5. Archebu a thalu
- Rhaid archebu adnoddau copi caled (llyfrau gwaith) trwy ein gwefan.
- Rhaid gwneud archebion ar gyfer cofrestru dysgwyr, sesiynau hyfforddi, mewngofnodi e-Sweet, tystysgrifau newydd ac eitemau amrywiol eraill drwy eich IQA Sweet penodedig neu drwy info@sweet.education.
- Bydd pob taliad yn cael ei brosesu trwy anfoneb.
- Rydych chi'n gyfrifol am ddarparu manylion bilio a dosbarthu cywir ar gyfer prosesu archebion. Nid yw Sweet Education yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod os darperir manylion anghywir ar y pwynt prynu.
- Rydych chi'n gyfrifol am ddarparu rhifau archeb brynu os oes angen.
- Rhaid setlo anfonebau o fewn 30 diwrnod ar ôl eu derbyn.
- Mae taliadau mewn GBP (£), ac mae cwsmeriaid yn gyfrifol am ffioedd trosi a chydymffurfio â rheoliadau mewnforio lleol.
- Am fanylion ynglŷn â thynnu’n ôl, canslo, ad-daliadau a dychwelyd, cyfeiriwch at ein Polisi Ad-dalu a Dychwelyd.
6. Cwsmeriaid rhyngwladol
- Mae taliadau mewn GBP (£); mae'r cwsmer yn talu ffioedd trosi.
- Rhaid i gwsmeriaid rhyngwladol sicrhau cydymffurfiaeth â'u cyfreithiau lleol ynghylch treth, mewnforio a diogelu defnyddwyr. Cyfrifoldeb y cwsmer yn unig yw unrhyw daliadau ychwanegol a godir oherwydd tollau neu ofynion rheoleiddiol.
- Ar gyfer cwsmeriaid yn Ynysoedd y Falkland, mae rheoliadau GDPR y DU yn berthnasol, ac mae cwsmeriaid yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion lleol wrth drin data dysgwyr.
- Ar gyfer cwsmeriaid yn Tsieina, rydym yn dilyn y Gyfraith Diogelu Gwybodaeth Bersonol (PIPL) ac yn defnyddio Cymalau Cytundebol Safonol (SCCs) neu’n gofyn am ganiatâd penodol ar gyfer trosglwyddo data.
7. Eiddo deallusol a chamddefnydd deunyddiau
- Mae'r holl gynnwys, deunyddiau ac eiddo deallusol ar y wefan hon naill ai'n eiddo i Sweet Education neu yn cael eu defnyddio o dan drwydded. Mae'r gweithiau hyn wedi'u diogelu gan gyfreithiau hawlfraint a chytundebau rhyngwladol. Gwaherddir defnydd heb ei awdurdodi.
- Rydym yn darparu mynediad at ddeunyddiau i aelodau yn unig, gan gynnwys adnoddau athrawon, dogfennau ategol ac adnoddau darparu ychwanegol, i ddefnyddwyr sydd wedi’u hawdurdodi yn unig. Gwaherddir rhannu, dosbarthu neu atgynhyrchu'r deunyddiau hyn heb awdurdod yn llwyr.
- Mae unrhyw gamddefnydd o’n deunyddiau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddosbarthu, atgynhyrchu, addasu neu rannu â thrydydd partïon heb eu hawdurdodi, yn groes i'r Telerau hyn. Bydd camau o'r fath yn arwain at derfynu mynediad ar unwaith, camau cyfreithiol posibl a hawliadau am iawndal lle bo'n berthnasol.
- Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Hysbysiad Hawlfraint ac Ymwadiad.
8. Telerau Ychwanegol: Cytundeb Partneriaeth
- Mae Cytundeb Partneriaeth Sweet Education yn ddogfen ffurfiol sy'n cynnwys Telerau ychwanegol i'w gwsmeriaid, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i brotocolau hyfforddi, adnoddau, mynediad e-Sweet, cofrestriadau, darparu ac apelio, safoni, prosesau sicrhau ansawdd mewnol, cydweithio ac ymweliadau cymorth, llên-ladrad a hawliadau.
- Mae Sweet Education yn ei gwneud yn ofynnol i bob cwsmer ddarllen a derbyn y Telerau yn ein Cytundeb Partneriaeth. Darperir y Telerau hyn i bob cwsmer yn flynyddol.
- Bwriad y Telerau a fanylir yn y Cytundeb Partneriaeth yw egluro'r mecanweithiau cymorth a gynigir trwy Sweet Education a hefyd amlygu gofynion pob canolfan ddarparu.
- Rhaid i chi sicrhau bod cynnwys y Cytundeb Partneriaeth yn cael ei rannu gyda'r holl staff darparu yn eich canolfan.
- Gellir gofyn am gopi o'r Cytundeb Partneriaeth gan eich cyswllt Sweet.
- Trwy gwblhau'r Cytundeb Partneriaeth, rydych chi'n cydnabod eich bod yn ymrwymo i gytundeb rhwymol gyda Sweet Education ar gyfer y flwyddyn academaidd benodedig. Gall peidio â chydymffurfio â'r Telerau a nodir yn y cytundeb arwain at derfynu contract a chamau cyfreithiol posibl lle bo hynny'n berthnasol.
- Mae Sweet Education yn cadw'r hawl i derfynu'r bartneriaeth/contract gyda chanolfan yn ôl ei ddisgresiwn ar unrhyw adeg ar ôl i'r cytundeb gael ei lofnodi.
9. Cyfyngu ar atebolrwydd
Nid yw Sweet Education yn gyfrifol am:
- Unrhyw golled, llygru neu dorri data a achosir gan ddarparwyr trydydd parti, ymosodiadau seiber neu fethiannau technegol y tu hwnt i'n rheolaeth.
- Iawndal anuniongyrchol neu ganlyniadol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i golli elw, colli busnes neu niwed i enw da.
- Tarfu ar wasanaethau, materion technegol, neu newidiadau rheoleiddiol sy'n effeithio ar fynediad i'n gwefan, cynnyrch neu wasanaethau.
10. Datrys anghydfodau a chyfraith lywodraethol
- Mae'r Telerau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Cymru a Lloegr.
- Bydd anghydfodau yn cael eu setlo yn llysoedd Cymru a Lloegr.
11. Newidiadau i’r Telerau hyn
Efallai y byddwn yn diweddaru'r Telerau hyn ar unrhyw adeg. Mae defnydd parhaus o'n gwasanaethau yn golygu derbyn unrhyw delerau diwygiedig.
Am ymholiadau pellach, cysylltwch â info@sweet.education.