English
Dewislen
Cyfreithiol

Polisi ad-dalu a dychwelyd

Sut mae dychweliadau, tynnu'n ôl a nodiadau credyd yn gweithio ar gyfer archebion adnoddau a chofrestru dysgwyr.

1. Archebion Adnoddau

Rydym yn gweithredu polisi dychwelyd 30 diwrnod ar gyfer ein hadnoddau copi caled / llyfrau gwaith. Os nad ydych yn fodlon â'ch cynnyrch, gallwch ei ddychwelyd yn ei gyflwr gwreiddiol yn gyfnewid am nodyn credyd o fewn 30 diwrnod calendr o’i brynu. Bydd cwsmeriaid yn talu am gostau postio. E-bostiwch info@sweet.education gyda'ch rhif archeb i drefnu.

2. Archebion Cofrestru

Rydym yn gweithredu polisi tynnu'n ôl 60 diwrnod ar gyfer cofrestru dysgwyr. Os ydych yn dymuno tynnu'n dysgwyr yn ôl, rhaid i chi roi gwybod i'ch IQA neu gysylltu â info@sweet.education o fewn 60 diwrnod calendr o'r cofrestriad gwreiddiol. Ar ôl i ddysgwyr gael eu tynnu'n ôl, byddwch yn derbyn nodyn credyd am werth y cofrestriad gwreiddiol.

Sylwer: mae ad-daliadau yn cael eu rhoi fel nodiadau credyd oni bai bod cais penodol am ad-daliad wedi’i wneud.