English
Dewislen
Lloegr

Datblygwch gwricwlwm cynhwysol sy’n arwain i rywle.

Dau BTEC Pearson ar Lefel 1 a Lefel 2, sy’n werth hyd at ddau TGAU. Nid oes arholiad – mae dysgwyr yn cael eu hasesu ar y gwaith y maen nhw’n ei gwblhau yn y dosbarth.

Beth mae Sweet yn ei gynnig

Dau lwybr wedi’i achredu, wedi’i ddatblygu o amgylch y dysgwr.

Rhowch gyfle i fwy o bobl ifanc ddatblygu, llwyddo a pharatoi ar gyfer yr hyn a ddaw nesaf gyda chymwysterau galwedigaethol hyblyg mewn Twf Personol a Lles a WorkSkills.

Mae Sweet yn helpu ysgolion i greu llwybrau ystyrlon all gefnogi cynhwysiant, datblygiad personol a lles, paratoi at fod yn oedolyn, gyrfaoedd a chyflogadwyedd.

Mae’r ddau yn rhedeg ar Lefel 1 a Lefel 2, mewn meintiau o un uned i hyd at ddau TGAU, fel bod ysgolion yn gallu datblygu darpariaeth o amgylch y dysgwr yn hytrach na disgwyl i bob dysgwr i ffitio’r un llwybr.

A dim ond y dechrau yw darparu’r cymhwyster. Mae pob canolfan Sweet yn cael ei chefnogi gan ein tîm IQA pwrpasol, hyfforddiant wedi’i deilwra, adnoddau ymarferol ac arweiniad parhaus trwy gydol y ddarpariaeth.

Cwricwlwm cynhwysol. Cymwysterau ystyrlon. Cymorth sy’n hwyluso’r ddarpariaeth.

Pam mae hyn yn bwysig

Mae ysgol gynhwysol angen cwricwlwm cynhwysol.

Mae cynhwysiant yn ymwneud â mwy na lle mae person ifanc yn dysgu. Mae hefyd yn ymwneud â’r hyn y maent yn gallu cael mynediad ato, ei gyflawni a’i baratoi ar ei gyfer pan fyddant yn cyrraedd yno.

Wrth i ysgolion ymateb i dirwedd AAAA a chynhwysiant sy’n newid, mae’r cwricwlwm, datblygiad personol, lles a pharatoi at fod yn oedolyn i gyd yn bwysig.

Mae hynny’n arwain at gwestiwn pwysig: a yw eich cwricwlwm yn rhoi cyfleoedd ystyrlon i wahanol ddysgwyr lwyddo?

I rai pobl ifanc, ni fydd llwybr mwy academaidd yn rhoi pob cyfle sydd ei angen arnynt i ddangos eu cryfderau, magu hyder neu baratoi at yr hyn a ddaw nesaf.

Mae cymwysterau Sweet yn rhoi dewis arall i ysgolion: llwybrau ymarferol, wedi’u achredu a all eistedd o fewn cwricwlwm ehangach a mwy cynhwysol.

Lle mae’n ffitio

Pedwar maes lle gall Sweet gryfhau eich cynnig.

AAAA a chwricwlwm cynhwysol Ehangwch eich cynnig cwricwlwm gyda llwybrau ystyrlon, wedi’u hachredu i ddysgwyr sydd â gwahanol gryfderau, anghenion a mannau cychwyn.
Datblygiad personol a lles Crëwch gyfleoedd strwythuredig i ddysgwyr ddatblygu gwybodaeth, hyder a sgiliau sy’n gysylltiedig â datblygiad personol, lles a bywyd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
Paratoi at fod yn oedolyn Cefnogwch bobl ifanc i ddatblygu gwybodaeth ymarferol, hyder, annibyniaeth a sgiliau wrth iddynt baratoi at eu camau nesaf.
Gyrfaoedd a chyflogadwyedd Cryfhewch eich cynnig gyrfaoedd a chyflogadwyedd ehangach gyda dysgu ymarferol sy’n gysylltiedig â’r gweithle, datblygiad a’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc ar gyfer bywyd gwaith.
Gyrfaoedd

Mwy na chymhwyster: paratoi ar gyfer yr hyn a ddaw nesaf.

Nid yw addysg gyrfaoedd dda yn ymwneud â dewis pen y daith yn unig. Mae pobl ifanc hefyd angen cyfleoedd i ddeall y gweithle, datblygu sgiliau cyflogadwyedd a magu hyder ar gyfer eu cam nesaf.

Gall WorkSkills ategu rhaglen yrfaoedd ehangach ysgol a dull sy’n cyd-fynd â Gatsby trwy ddarparu dysgu ymarferol, wedi’i achredu sy’n gysylltiedig â chyflogaeth a bywyd gwaith.

I ddysgwyr sy’n elwa o ddysgu ymarferol a galwedigaethol, gall hynny droi gyrfaoedd a chyflogadwyedd o rywbeth maen nhw’n clywed amdano yn rhywbeth maen nhw’n ei ddysgu ac yn cyflawni drwyddo.

Cyflawniad cydnabyddedig

Dysgu ystyrlon. Cyflawniad cydnabyddedig.

Mae cymwysterau a gefnogir gan Sweet ar gael mewn gwahanol feintiau a lefelau, gan ganiatáu i ysgolion greu llwybrau o amgylch dysgwyr a’u cwricwlwm.

Yn dibynnu ar y cymhwyster a’r llwybr sy’n cael ei ddewis, gall dysgwyr weithio tuag at ddeilliannau llai wedi’u hachredu hyd at gymwysterau sydd gyfwerth â hyd at ddau TGAU.

Mae hynny’n golygu y gall llwybr fod yn hygyrch heb leihau uchelgais. Gall pobl ifanc ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ymarferol wrth weithio tuag at gyflawniad cydnabyddedig.

Pam Sweet

Mae’r cymhwyster yn bwysig. Mae’r gefnogaeth y tu ôl iddo yn bwysig hefyd.

Nid dim ond cofrestru dysgwyr ar gyfer cymhwyster rydych chi’n ei wneud. Rydych chi’n ymuno â thîm a fydd yn eich helpu i’w ddarparu’n llwyddiannus.

Yn Sweet Education, nid yw cefnogaeth yn ychwanegiad ac nid yw’n stopio unwaith y bydd eich canolfan wedi’i sefydlu.

Mae gan bob canolfan Sweet fynediad at dîm IQA pwrpasol sy’n deall y cymwysterau, yn deall darpariaeth ac sydd yno i’ch cefnogi trwy gydol y daith.

Os ydych chi’n cyflwyno cymwysterau Sweet am y tro cyntaf neu’n ehangu’r ddarpariaeth ar draws eich ysgol, mae ein tîm yn gweithio ochr yn ochr â chi i wneud y ddarpariaeth mor syml, hyderus a llwyddiannus â phosibl.

Cymorth IQA pwrpasol

Mae eich canolfan yn cael ei chefnogi gan IQA penodedig, gan roi pwynt cyswllt cyson i chi â rhywun sy’n dod i adnabod eich canolfan, eich darpariaeth a’r ffordd rydych yn darparu.

Hyfforddiant wedi’i deilwra

Nid ydym yn credu mewn rhoi’r un pecyn hyfforddiant i bob canolfan a gadael i chi fwrw ymlaen ag ef. Gellir llunio hyfforddiant a chefnogaeth o amgylch eich staff, eich profiad a’ch model darparu.

Help parhaus

Nid yw cwestiynau yn glanio’n gyfleus ar ddiwrnodau hyfforddiant. Mae ein tîm IQA ar gael trwy gydol y ddarpariaeth i gefnogi asesu, tystiolaeth, sicrhau ansawdd a’r cwestiynau ymarferol sy’n codi.

Adnoddau ymarferol

Nid ydych yn dechrau gyda manyleb cymhwyster a dalen wag o bapur. Mae Sweet yn darparu adnoddau a chanllawiau wedi’u dylunio i leihau baich cynllunio a chefnogi darpariaeth hyderus.

Pobl go iawn

Nid ydym eisiau i chi deimlo fel canolfan arall ar daenlen. Mae gennych fynediad at bobl sy’n deall y cymwysterau ac sy’n gallu helpu pan fydd ei angen arnoch.

Ansawdd drwyddo draw

O ddechrau arni i asesu a sicrhau ansawdd, mae ein model wedi’i gynllunio i gefnogi canolfannau trwy gydol y daith ddarparu.

Cwestiynau cyffredin

Cwestiynau gan ysgolion Lloegr

Beth mae canolfannau Lloegr yn gofyn i ni amlaf. Mae mwy o atebion ar bob tudalen cwrs.

Beth yw gwerth y cymwysterau hyn yn Lloegr?

Mae’r ddau yn BTEC Pearson ar Lefel 1 a Lefel 2, ac mae’r ddau yn rhedeg mewn sawl maint. Mae’r mwyaf gyfwerth â TGAU – hyd at ddau TGAU, wedi’u graddio 9–4 ar Lefel 2 a 3–1 ar Lefel 1. Mae’r tablau llawn ar y tudalennau Twf Personol a Lles a WorkSkills yn Lloegr.

Ble maen nhw’n ffitio o fewn cwricwlwm ynLloegr?

Gall ysgolion eu hystyried fel rhan o’u dull AAAA a chynllunio cwricwlwm cynhwysol, ABGI a datblygiad personol, paratoi at fod yn oedolyn, hyder ac annibyniaeth, datblygiad sgiliau ehangach a chyfoethogi’r cwricwlwm. Yn Lloegr, mae adnoddau Twf Personol a Lles yn cwmpasu’r manylebau ABGI a ACRh cyfan.

Ydyn nhw’n disodli ein darpariaeth AAAA?

Na. Nid ydynt yn disodli cyfrifoldebau statudol ysgol na darpariaeth AAAA. Gallant fod yn rhan o gynnig cwricwlwm ehangach wedi’i gynllunio o amgylch anghenion, cryfderau a chamau nesaf gwahanol ddysgwyr.

Ydyn nhw’n cefnogi meincnodau Gatsby?

Mae WorkSkills yn cefnogi meincnodau Gatsby y Good Career Guidance. Gall ategu rhaglen yrfaoedd ehangach ysgol trwy ddarparu dysgu ymarferol wedi’i achredu sy’n gysylltiedig â chyflogadwyedd a bywyd gwaith.

Am ba hyd maen nhw ar gael yn Lloegr?

Mae Twf Personol a Lles a WorkSkills ar gael yn Lloegr tan 2029. Mae’r cymwysterau Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith sy’n eu dilyn yn cael eu haddysgu am y tro cyntaf yng Nghymru o fis Medi 2027; nid yw’r newid hwnnw yn effeithio ar Loegr.

Oes yna arholiad?

Na. Mae dysgwyr yn cael eu hasesu ar y llyfrau gwaith maen nhw’n eu cwblhau yn y dosbarth, ac nid oes arholiad na pharatoadau arholiad ar wahân i athrawon.

Oes gennych chi fwy o gwestiynau?

Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni

Ddim yn siŵr ble y gallai Sweet ffitio?

Does dim angen ateb arno chi cyn i chi gysylltu â ni.

Siaradwch â’n tîm am eich dysgwyr, eich cwricwlwm cyfredol a’r hyn rydych chi’n ceisio ei gyflawni. Gallwn eich helpu i archwilio’r cymhwyster, y llwybr a’r dull darparu a allai weithio i’ch ysgol chi.