Mae’r ddau yn BTEC Pearson ar Lefel 1 a Lefel 2. Mae’r ddau yn cael eu hasesu ar lyfrau gwaith wedi’u cwblhau, heb arholiad. Y gwahaniaeth yw’r cynnwys.
Mae modd rhedeg y ddau fel llwybr amgen ochr yn ochr â TGAU yng Nghyfnod Allweddol 4, neu fel rhan o gwricwlwm wedi’i bersonoli – y maint rydych chi’n ei ddewis sy’n penderfynu faint o’r amserlen y mae’n ei gymryd.
Mae Twf Personol a Lles am y person. Mae Sgiliau Gwaith am waith.
Os ydych chi’n chwilio am rywbeth i lenwi ABGI, ACRh neu amser lles, dewiswch TPLl. Os ydych chi’n ymdrin â gyrfaoedd, cyflogadwyedd a pharatoi at y byd gwaith, dewiswch WorkSkills. Mae llawer o ganolfannau yn rhedeg y ddau – un ym mhob grŵp blwyddyn fel arfer, yn hytrach na’r ddau i’r un dosbarth.
Mae popeth arall bron yr yn fath: yr un sefydliad dyfarnu, yr un ddwy lefel, cyfwerthedd TGAU, dim arholiad yn y naill na’r llall, a’r un hyfforddiant a chefnogaeth IQA y tu ôl i’r ddau.
Popeth mae pennaeth adran fel arfer yn ei ofyn, mewn un lle.
| Twf Personol & Lles | WorkSkills | |
|---|---|---|
| Beth mae’n ei gynnwys | Iechyd corfforol, emosiynol, cymdeithasol a rhywiol; hunaniaeth bersonol; ymwybyddiaeth amgylcheddol; ymwybyddiaeth ariannol; gosod nodau | Gwaith tîm, ceisiadau am swyddi, cynllunio prosiect, bod yn entrepreneuraidd a datblygiad gyrfa |
| I bwy y mae | Myfyrwyr uwchradd | Myfyrwyr 14 oed a hŷn |
| Lefelau | Lefel 1 a Lefel 2 | Lefel 1 a Lefel 2 |
| Llyfrau mewn set | Wyth | Chwech |
| Dewis unedau | Mae’r nifer o unedau yn dibynnu ar y maint rydych chi’n ei ddewis | Dim unedau gorfodol – unrhyw gyfuniad, o un hyd at bob un o’r chwech |
| Meintiau cymwysterau | Dyfarniad Ategol, Dyfarniad, Tystysgrif, Tystysgrif Estynedig | Dyfarniad Ategol, Dyfarniad, Tystysgrif – ynghyd â Thystysgrif Sylfaen yng Nghymru a Dyfarniad Estynedig yn Lloegr |
| Oriau dysgu dan arweiniad | 24 i 210 | 35 i 210 |
| Cywerthedd TGAU | 0.25 i 2 TGAU | 0.25 i 2 TGAU |
| Arholiad | Dim | Dim |
| Ar gael yn Gymraeg | Ydi – Cymraeg a Saesneg | Nac ydi – Saesneg yn unig |
| Fersiwn ddigidol | Oes – y cwrs e-Sweet ar-lein | Nac oes |
| Dyfarnwyd gan | Pearson | Pearson |
Mae codau cymwysterau, pwyntiau perfformiad a’r tablau llawn ar bob tudalen cwrs.
Oes angen i chi lenwi amser ABG(I), ACRh neu lles gyda rhywbeth sy’n achredu.
Ydych chi eisiau opsiwn cyfrwng Cymraeg, neu un digidol.
Eich blaenoriaeth yw’r cwricwlwm bugeiliol – iechyd meddwl, perthnasoedd, hunaniaeth, arian.
Ydych chi eisiau’r dewis ehangaf o feintiau, o un uned 24 awr hyd at unedau sy’n gyfwerth â dau TGAU.
Ydych chi’n ymdrin â gyrfaoedd, cyflogadwyedd neu baratoi ar gyfer gwaith.
Ydych chi eisiau dewis unedau yn rhydd – does dim un o’r chwech yn orfodol.
Ydych chi’n gweithio gyda Blwyddyn 10 ac uwch, mewn ysgol, coleg neu ddarpariaeth amgen.
Yn Lloegr, mae angen rhywbeth sy’n cefnogi meincnodau Gatsby.
Mae tair cost ddau gwrs, ac mae canolfan yn talu’r dair. Cofrestru yw’r mwyaf ohonynt, felly nid pris y llyfr gwaith ar ei ben ei hun yw’r gost o redeg carfan.
| Twf Personol & Lles | WorkSkills | |
|---|---|---|
| Set o lyfrau | £27.76 (wyth llyfr) | £24.67 (chwe llyfr) |
| Llyfr unigol | £5.15 | £5.15 |
| Cofrestriad, fesul disgybl | £37.23 i £113.15, yn ôl maint | £42.54 i £71.79, yn ôl maint |
| Opsiwn digidol | Mewngofnodi e-Sweet, £19.52 | — |
| Hyfforddiant, untro | £283.00 i’r aelod cyntaf o staff, £100.00 i bob aelod ychwanegol. Gorfodol ar gyfer canolfannau newydd – sesiwn 2-3 awr dros Microsoft Teams. | |
| Llyfr sampl | Am ddim ar gyfer y ddau | |
Bydd costau postio yn ychwanegol; mae casglu o’n swyddfa yng Nghaerdydd am ddim. Anfonebir archebion – nid oes byth gofyn i chi rannu manylion cerdyn.
Y cwestiynau sydd gan ganolfannau pan maen nhw’n dewis rhwng y ddau.
Gallwch, ac mae nifer o ganolfannau yn gwneud hynny. Y patrwm arferol yw un cwrs fesul grŵp blwyddyn yn hytrach na’r ddau i’r un dosbarth – TPLl ar gyfer y blynyddoedd iau, WorkSkills wrth i ddysgwyr agosáu at adael. Mae hyfforddiant ar gyfer eich canolfan, nid un cwrs, felly nid ydych yn talu amdano ddwywaith.
TPLl, os oes gennych chi amser ABG(I) eisoes – mae canolfannau yn ei ddarparu yn ystod yr amser hwn, trwy bynciau craidd gan gynnwys Mathemateg a Gwyddoniaeth, neu mewn blociau opsiwn. Mae WorkSkills fel arfer yn cael ei amserlennu yn erbyn darpariaeth gyrfaoedd neu mewn darpariaeth amgen.
Am nawr, ydi. Mae adnoddau TPLl ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar y ddwy lefel, fel llyfrau gwaith wedi’u printio neu fel cwrs e-Sweet ar-lein. Ar hyn o bryd mae adnoddau WorkSkills ar gael yn Saesneg yn unig.
Na. Mae’r ddau yn BTEC Pearson ar Lefel 1 a Lefel 2, mae’r ddau yn cael eu hasesu ar waith wedi’i gwblhau heb arholiad, ac mae’r ddau yn rhedeg o chwarter TGAU i ddau TGAU yn dibynnu ar y maint rydych chi’n ei ddewis.
Mae’r ddau yn parhau yng Nghymru tan 2028 gyda carfanau presennol, a bydd cofrestriadau olaf ar gyfer y ddau ar 31 Gorffennaf 2027. Yn Lloegr mae’r ddau ar gael tan 2029. O fis Medi 2027 yng Nghymru, bydd addysgu Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith yn dechrau am y tro cyntaf. Mwy am Don 3.
Oes gennych chi fwy o gwestiynau?
Mae’r ddau lyfr sampl am ddim. Os byddai’n well gennych siarad drwyddo, gall eich cyswllt ardal ddweud wrthych beth wnaeth canolfannau tebyg ddewis a pham.